Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi – Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Chwefror 2024

 

Yn bresennol:

 

John Griffiths AS (Cadeirydd)

Steffan Evans – Sefydliad Bevan (Ysgrifenyddiaeth)

Abigail Rees - Barnardo’s

Amy Dutton – Cyngor ar Bopeth

Ben Saltmarsh – National Energy Action Wales

Andrew Bettridge – Swyddfa John Griffiths AS

Catrin Glyn – Ymddiriedolaeth y Gofalwyr

Cherrie Bija – Ffydd mewn Teuluoedd

Emma Osterberg – IFAN

Gareth Lynn Montes – Cyngor Ffoaduriaid Cymru

Hannah Sorley – Cyngor ar Bopeth

Hayley – Cartrefi Cymunedol Cymru

Helal Uddin - EYST

Ioan Bellin – Aelod Staff Plaid Cymru

Jamie Insole - Undeb Prifysgolion a Cholegau

Joel Davies – Sefydliad Bevan

Katie Palmer – BIP Caerdydd a’r Fro

Kiera Marshall – Aelod Staff Plaid Cymru

Liz Williams - RNIB

Maria Marshall - IFAN

Mary Van den Heuval - Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU)

Mike Lewis

Nerys Sheehan – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái

Rachel Bowen – Swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn

Niamh Sakeld – swyddfa grŵp Plaid Cymru

Sarah Germain – FareShare Cymru

Shaun Bendle – Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd ymhlith Pobl Ifanc Cymru

Therese Warwick – Yr Asiantaeth Gatholig ar gyfer Datblygu Tramor (Cafod)

Owen Thomas – Swyddfa John Griffiths AS

 

Nodyn o’r cyfarfod

1.       Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

2.       Gwahoddodd y Cadeirydd Steffan Evans o Sefydliad Bevan i ddarparu rhagolwg o'i adroddiad ‘Snapshot of poverty for winter 2024’, sy’n cael ei lansio ar 6 Mawrth. Darparodd Steffan rai pwyntiau allweddol o'r gwaith fel ffocws i'r grŵp feddwl am ble y gall gyfeirio ei sylw nesaf:

 

a.       Mae Sefydliad Bevan yn pryderu bod normal newydd o ragor o dlodi a chaledi yn dod i'r amlwg yn seiliedig ar ganfyddiadau ei arolygon ‘Snapshot’ diweddaraf.

b.       Rhwng mis Mai 2021 a mis Gorffennaf 2022, roedd cyllid cartrefi wedi dirywio'n sylweddol gydag effeithiau'r pandemig a'r argyfwng costau byw, ond ers hynny mae'r canlyniadau hyn wedi sefydlogi ar lefelau uchel iawn o galedi ariannol. Mae effeithiau hyn yn y byd go iawn yn cynnwys tua 1/3 o bobl yn mynd heb wres ac 1/4 yn torri i lawr ar faint eu prydau bwyd neu’n mynd heb brydau bwyd gyda 18 y cant yn gwneud yr un peth i'w plant hefyd.

c.       Mae arolwg diweddaraf y Sefydliad yn dangos bod 27 y cant o bobl yng Nghymru wedi benthyg arian yn ystod y tri mis o Hydref 2023 ymlaen ac roedd 13 y cant mewn ôl-ddyledion ar o leiaf un bil ym mis Ionawr 2024.

d.       O ran iechyd a thai, mae 44 y cant o bobl yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl, ac mae 30 y cant yn dweud ei bod yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd corfforol. Mae lefelau uchel o bobl yn dweud eu bod yn poeni am golli eu cartref, yn enwedig yn y sector rhentu.

e.       Mae Sefydliad Bevan yn arbennig o bryderus am rai grwpiau sy'n cael eu heffeithio'n anghymesur - rhieni plant dan 18 oed, pobl anabl, rhentwyr, ac aelwydydd incwm isel.

f.        Mae lefelau uchel parhaus o dlodi yn debygol o gael effaith sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus a'r trydydd sector. Mae cwestiwn ynghylch sut rydym yn cynnal ymdrechion cymorth mewn 'modd argyfwng' hirfaith.

g.       Dylem fod yn bryderus am greithiau tymor hir tlodi, yn enwedig ar blant.

h.       I'r rhai sydd â diddordeb mewn tlodi plant, mae Sefydliad Bevan yn cynnal sesiwn fanwl ar 12 Mawrth.

 

3.       Diolchodd y Cadeirydd i Steffan am ei gyfraniad a symudodd ymlaen i'r eitem nesaf ar yr agenda, sef cyflwyniad gan Ben Saltmarsh o National Energy Action. Gwnaeth Ben y pwyntiau canlynol:

 

a.       Roedd Ben yn cytuno â'r canfyddiadau allweddol a rannwyd gan Steffan ac roedd yn cydnabod eu perthnasedd i'r maes tlodi tanwydd, gan gefnogi'r syniad o ‘normal newydd’ a'r angen am atebion hirdymor a chynaliadwy i'r argyfwng yn ogystal ag ymatebion mewn modd argyfwng. Mae llawer o'r pwyntiau a wnaed hefyd yn berthnasol i dlodi tanwydd.

b.       Mae'r niferoedd sy'n byw mewn tlodi tanwydd wedi cynyddu'n sylweddol ers 2018 pan oedd 12 y cant o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd. Mae hyn wedi cynyddu i 45 y cant o aelwydydd ym mis Ebrill 2023, a 98 y cant o aelwydydd incwm is.

c.       Gall aelwydydd tlotach dalu mwy am eu hegni yn y pen draw oherwydd costau uwch yn seiliedig ar sut mae biliau'n cael eu talu, gyda rhagdalu yn costio mwy na debyd uniongyrchol. Mae prisiau hefyd yn uwch yng ngogledd Cymru, er enghraifft. Gyda'r tâl sefydlog cyfartalog tua £400 y flwyddyn yng ngogledd Cymru, yn y bôn, mae'n rhaid i'r rhai sydd ar dariff rhagdalu dalu hyn cyn iddynt gael unrhyw ynni, sy'n heriol i'r rhai ar incwm isel.

d.       Mae llawer o gefnogaeth y llywodraeth ar gyfer costau ynni bellach wedi dod i ben, gan gynnwys Cynllun Cymorth Tanwydd Cymru a’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni. 

e.       Bydd yr argyfwng yn gadael gwaddol o ddyled llethol y bydd llawer yn ei chael hi'n anodd gwella ohoni heb gymorth. Erbyn hyn mae cyfanswm y ddyled ynni oddeutu £3 biliwn o'i gymharu â £2.2 biliwn yng nghanol y llynedd.

f.        Mae NEA wedi galw am gynllun cymorth i ad-dalu a diogelu prisiau, nad yw wedi dod i'r amlwg gan Lywodraeth y DU. Mae pryder na fydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud nawr tan yr etholiad cyffredinol.

g.       Mae pryder bod y moratoriwm ar osod mesuryddion rhagdalu gorfodol yn cael ei godi yn ddarostyngedig i reolau newydd, ac y bydd tanwydd hanfodol yn cael ei wrthod i aelwydydd sydd mewn perygl. Mae yna rai grwpiau na ddylai fyth gael mesuryddion rhagdalu wedi'u gosod yn orfodol, gan gynnwys pobl dros 75 oed a'r rhai sy'n dibynnu ar nwy/trydan ar gyfer offer meddygol.

h.       Nododd Ben fod Ofgem i fod i wneud penderfyniad yn fuan ynghylch a all cwmnïau ynni barhau i brisio'n wahanol yn seiliedig ar ddull talu.

i.         Llywodraeth Cymru sydd â'r dylanwad posibl mwyaf ar dlodi tanwydd ym maes cartrefi clyd. Mae disgwyl i'r cynllun Nyth gael ei adnewyddu ar 1 Ebrill ond nid oes cyhoeddiad wedi ei wneud eto ar ddyfarniadau'r contract ar gyfer y rhaglen.

j.         Disgwylir i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd ac Effeithlonrwydd Ynni gael ei gynnal ddydd Iau 22 Chwefror, a Chynhadledd Tlodi Tanwydd Blynyddol NEA ar 7 Mawrth.

k.       Mae NEA yn galw am gynnwys targedau interim ar sail effeithlonrwydd ynni yn strategaeth trechu tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru, a mwy o safonau effeithlonrwydd ynni gofynnol yn y sector rhent.

 

4.       Diolchodd y Cadeirydd i Ben am ei gyfraniad a symudodd ymlaen i gyfraniad a wnaed gan Cherrie Bija o Ffydd mewn Teuluoedd a anfonodd neges yn y sgwrs am y lansiad yn Abertawe ar 6 Mawrth ar gyfer Cwtch Mawr – banc popeth cyntaf Cymru. Mae'r elusen yn darparu eitemau ymarferol hanfodol i oedolion a phlant, a’r cyfan am ddim. Gwahoddodd y rhai a oedd yn bresennol i gysylltu â hi am ragor o wybodaeth a hoffai rannu manylion y cynllun yn y cyfarfod nesaf. Yna cyflwynodd y Cadeirydd Amy Dutton o Gyngor ar Bopeth Cymru i siarad. Gwnaeth y pwyntiau canlynol:

 

a.       Mae data Cyngor ar Bopeth yn dangos bod aelwydydd Cymru yn parhau i gael trafferth gyda chostau byw. Mae nifer y bobl sy'n ei chael hi'n anodd cadw i fyny â biliau cartref yn cynyddu, sy'n eu rhoi mewn perygl o ddyled broblemus hir, camau gorfodi dyledion a digartrefedd.

b.       Dyled biliau ynni sydd wedi codi fwyaf sylweddol, ac mae swm cyfartalog dyled ynni ar y lefel uchaf erioed.

c.       Gwelwyd cynnydd 73 y cant yn nifer y bobl na allant ychwanegu at eu mesurydd rhagdalu o'i gymharu â 2022. Mae risgiau yn gysylltiedig â mesuryddion rhagdalu, gan gynnwys risg o ddatgysylltu a mynd heb danwydd hanfodol. Mae pryder ynghylch dychweliad gosod mesuryddion rhagdalu yn orfodol.

d.       Mae Cyngor ar Bopeth yn gweld y nifer uchaf erioed o bobl mewn argyfwng, gan arwain at y swm uchaf erioed o atgyfeiriadau at fanciau bwyd a chymorth elusennol. Roedd yn cytuno â phwynt y siaradwyr blaenorol ynglŷn â sefydlogi ar lefelau pryderus ac anghynaliadwy.

e.       Mae llawer o bobl sy'n mynd am gymorth argyfwng hefyd angen cyngor ar faterion eraill fel taliadau annibyniaeth bersonol, sy'n golygu bod cynghorwyr yn cymryd mwy o amser gyda chleientiaid.

f.        Mae 250,000 o bobl yng Nghymru yn byw ar gyllideb negyddol gyda 436,000 arall yn cael dau ben llinyn ynghyd drwy leihau gwariant i lefelau anniogel.

g.       Mae pobl anabl/pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, tenantiaid cymdeithasol a phobl sengl gan gynnwys rhieni sengl yn gofyn am gymorth anghymesur gan Gyngor ar Bopeth ar gyfer materion costau byw.

h.       Bydd y sefyllfa'n gwaethygu yn ystod misoedd cyntaf 2024. Bydd y gostyngiad mewn prisiau ynni a ragwelir ym mis Ebrill, yn helpu rhywfaint yn ogystal â mentrau'r llywodraeth, ond bydd yr argyfwng yn parhau hyd at 2024.

i.         Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar wneud y mwyaf o incwm i'r rhai sydd mewn perygl drwy fanteisio’n llawn ar fudd-daliadau a chymorth a lleihau gwariant cartrefi, gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi, cynyddu nifer y tai cymdeithasol a gwneud arferion casglu dyledion yn decach.

 

5.       Diolchodd y Cadeirydd i Amy am ei chyfraniad, gan agor y drafodaeth i'r llawr. Gofynnwyd ystod eang o gwestiynau, a chodwyd nifer o bwyntiau, gan gynnwys:

 

a.       Heriau i gyllidebau ym meysydd addysg ac iechyd, a sut y gellir symud y ffocws yn y GIG tuag at atal, wrth i bobl fynd yn dlotach ac yn fwy sâl gyda'r argyfwng costau byw.

b.       Mae pwysau tymor byr eithafol yn ei gwneud hi'n anodd ymrwymo i benderfyniadau gwariant tymor hir, ac yn gwneud penderfyniadau anodd yn anochel.

c.       Mae'r risg o staff yn cael eu gorlethu yn sefydliadau'r trydydd sector yn cynyddu gan eu bod mewn cyfnod parhaus o reoli argyfwng. Mae elusennau hefyd yn brin o arian i barhau i ddarparu gwasanaethau acíwt oherwydd yr argyfwng costau byw.

d.       Mae ymwybyddiaeth o'r cymorth sydd ar gael wedi cael ei ddangos gan yr RNIB i fod yn is ymhlith unigolion dall a rhannol ddall. Beth gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gynyddu mynediad i ragor o bobl?

e.       Awgrymwyd y gallai system fudd-daliadau yng Nghymru gynyddu mynediad at gymorth drwy wneud y system yn fwy syml. Roedd cydnabyddiaeth o'r angen am well cysylltiadau rhwng gwahanol fudd-daliadau a phasbortio gwell, ynghyd â dod â mwy o wasanaethau cynghori i leoliadau cymunedol, iechyd ac addysg.

f.        Gwelwyd bod cymdeithasau tai yn canfod nad yw teuluoedd yn gallu diwallu eu hanghenion o hyd, hyd yn oed pan fydd pobl yn manteisio ar fudd-daliadau a chymorth yn llawn. Roedd pryder pellach fod rhywfaint o gefnogaeth wedi ei diddymu heb ddigon o ymgynghori, er enghraifft o fewn y gronfa cymorth dewisol.

g.       Awgrymwyd bod yr agenda sero net a newid hinsawdd yn cydblethu'n sylfaenol â thlodi tanwydd, ac mae'n gofyn am bontio teg o ran sicrhau bod gwelliannau effeithlonrwydd cartrefi yn hygyrch i aelwydydd incwm isel.

h.       Awgrymwyd bod allgáu digidol ymhlith pobl hŷn a'r rhai ar incwm isel yn gwaethygu eu costau byw.

i.         Gofynnwyd i'r aelodau am fewnbwn ynghylch a yw'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi yn symud yn ôl i fformat cyfarfod hybrid. Ni chafwyd gwrthwynebiad.

 

6.       Crynhodd y Cadeirydd y pynciau trafod a diolchodd i'r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau. Awgrymodd y dylai’r cyfarfod nesaf fod yn Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.